Mae cofnodion anghydffurfiol yn anos i'w ddarganfod na rhai Anglicanaidd. Yn anffodus, mae llawer wedi cael eu colli pan gaewyd capeli.
Mae rhai ar gael ar-lein ar
Fynegai Cofnodion Anghydffurfiol Cymru a Lloegr (RG4-8), 1588-1977 trwy
https://www.familysearch.org/search/collection/1666142 ac ar safleoedd am dal.
Cedwir rhai cofrestrau anghydffurfiol yn Swyddfeydd Archif y Siroedd a'r Llyfrgell Genedlaethol. Cofnodir y rheiny a archifwyd hyd at 1994 yn llyfr Dafydd Ifan
Cofrestri Anghydffurfiol Cymru " (yn anhygoel o ddrud ar-lein, ond ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Cymru). Mae'n werth holi'r archifau lleol a'r Llyfrgell Genedlaethol i wirio eu hadneuon diweddaraf. (Cofiwch 1994 yw'r toriad ar gyfer adneuon nid y toriadau ar gyfer dyddiadau cofnodion).
Nid yw priodasau'n broblem, o 1837 ymlaen, bu'n rhaid i bob priodas cael ei gofrestru, er bod llawer o briodasau anghydffurfiol yn cael eu cofnodi fel "sifil" yn hytrach nag "anghydffurfiol" am resymau gweinyddol.