Diolch am gysylltu unwaith eto.
Mae fy nhad , sy'n 93 oed, yn dweud yn bendant fod Idris Davies yn perthyn i'n teulu ni ac mae aelodau eraill o'r teulu yn dweud yn bendant fod cysylltiad. Mae'n nhw'n cofio fy mamgu yn cyfeirio at Idris a'i frawd Tudor fel " plant bach Dafydd y Gof, Llanfynydd." Roedd ei chwaer Eunice yn gweithio yn siop Lewis Lewis yn Abertawe. Roedd y teulu yn Penrhos House Llanfynydd yn 1911 ( Plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, tud 52 , Ardal 03).
Rydyn ni'n credu bod ei dadcu yn hanner brawd i fy hen famgu ond rydym yn dal i chwilio am fwy o dystiolaeth.
Oes cysylltiad teuluol gyda chi a allai fod o gymorth i ni?
Diolch