Wedi bod yn cymharu'r gyfrol newydd a'r un o'i blaen ac wedi dysgu bod rhyw ugain o dudalennau newydd o achau ynddi, er na fedra'i ddweud ar hyn o bryd faint o ychwanegu sydd wedi bod i'r cynnwys o'r llyfr o'r blaen; mae'r print chydig yn llai - oherwydd y rhifo tudalennau, fallai, ond ddim yn ormodol felly. Yn sicr mae'n werth y pris i rywun all fforddio'r arian ac yn fendith i'r rhai sydd a'i gwreiddiau yn siroedd y gogledd.