Dyma ddyfyniad o lyfr Melville Richards, 'Enwau Tir a Gwlad'(1998), yr unig le y gallwn weld unrhywbeth perthnasol: 'Enw od yr olwg yw Llangasty Tal-y-Llyn ger Llyn Syfadden yn Sir Frycheiniog. Y ffurfiau hynaf yw Llangasten a St. Castayn, ac y mae hyn yn awgrymu mai Casten neu Castain yw enw'r sant. Ond ni wyddys mwy amdano na bod Gastayn wedi bedyddio Cynog fab Brychan.'
Ar ol gwneud Google ar eich Cystanog rwy'n gweld mai yn Abertawe a Sir Benfro mae'r enw'n ymddangos; alla'i ddim meddwl am unrhyw ffordd i'ch gyrru ymhellach ymlaen. Pob hwyl,
Godo