
"BrynLlidiart" gan Mathonwy Hughes (1901-1999)
Dim ond ei furddun unig
A weli fry ar dal frig
Yn ei heddwch mynyddig.
Diolau a diaelwyd
Yw y lle diarffordd llwyd
I dywydd a adawyd.
Tir pell y diadelloedd
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i’m taid ydoedd.
Hwnnw â’i raw gynt fu’n trin
O’r cwm ei ran o’r comin,
Palu, palu ymhob hin.
O’r mynydd oer mynnodd hwn
Droi gweundir yn dir gwndwn,
A’r fawnog yn rhywiog rwn.
Creodd fuddiol fywoliaeth
O fawndir llwm y cwm caeth,
Ond di-fudd etifeddiaeth.
Canys o’r llafur cynnar
Nid ery owns o dir âr,
Hulia brwyn ôl y braenar.
A heddiw lle bu tyddyn,
Caeau gwair aeth yn y grawc gwyn,
Gweirglodd a fagodd figwyn.
Y dioffer a diffaith
Hendir llwm, wedi’r holl waith,
a hawlia’r mynydd eilwaith.
... Gwych, heb os!