Author Topic: Translation help please  (Read 10316 times)

Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Translation help please
« on: Friday 08 May 09 20:42 BST (UK) »
I have some welsh which I would dearly like translated.  It is however about 2 word doc. pages long!
If no-one can help, can anyone tell me of an online site that may help, most I find are just
dictionarys.

Thank you

Offline Hazel17

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 575
  • I will translate Welsh to English on request.
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #1 on: Friday 08 May 09 20:50 BST (UK) »
I can translate for you. About how many words is it?

If it quite a lot maybe you wouldn't mind posting it and then I might be able to do a section and then someone else could do a section.

I will post a thread on the Welsh language board to point poeple here.
Rolph/Bird/Hilliard Writtle & Highwood Essex
Lister/Fitch/Kitteridge/Coote  Ashdon Essex
Coote Castle Camps Essex
Jones Kirby le Soken Essex
Kinch London/Swanbourne Bucks/Oxon
Burt Winfrith Newburgh, Dorset
Smith/Bant  Birmingham
Weatherill London/York
Hill/Habershon Sheffield
Roberts - London
Stringer - Leicester
Frost Castleton Derbys
Hall Wirksworth Derby
Allcock/Parkes Calton, Staffs
Meisenheimer Germany
Crossley/Adams Hidcote, Gloucs
R(o)ycroft Brown Malpas
Pratley BurfordOx

Offline O1dgobbo

  • RootsChat Aristocrat
  • ******
  • Posts: 1,049
  • Census information Crown Copyright, from www.natio
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #2 on: Friday 08 May 09 21:13 BST (UK) »
Hi

http://www.translation-guide.com/free_online_translators.php?from=English&to=Welsh

Google produced the web page above as a free translator between English and Welsh.  Computer translations can be quite mysterious sometimes so I have used it to translate this text to Welsh and then back to English.  What do you think of the result?

Google cynhyrchedig 'r gwe dudalen goruwch fel a rhyddha chyfieithwr cyd-rhwng Saesneg a Cymraeg. Chyfrifiadur chyfieithiadau all bod eithaf 'n gyfriniol ar adegau fel Arferais 'i at chyfieitha hon destun at Cymraeg a 'na bacia at Saesneg. Beth dybi chan 'r canlyniad?

Google produced ' group web page above like I go I free translator between English I go Welsh. Computer translations he is being able be extreme ' heartburn mysterious sometimes like I Used ' I to I translate this text to Welsh I go ' I do I back to English. Thing you suppose with ' group consequence?

Not a very exact reproduction of my first paragraph but I have no idea how good the Welsh second paragraph is.

All the best

Gobbo
Aberdeenshire - Chalmers, Crocker, Dalrymple, Kelman
Fife - Co?per, Dun, Jackson
NE England - Harland, Hasted, Heaviside, Longridge, Thompson
SE England - Drawbridge, Hall, Hayward, Howard, Newell, Seward, Slade, Smith

Offline Hazel17

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 575
  • I will translate Welsh to English on request.
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #3 on: Friday 08 May 09 21:18 BST (UK) »
Well that translation leaves  a lot to be desired, I wouldn't understand it if I read it without the English and I grew up in Wales.

I posted on the Welsh only board for you but I'm happy to translate a bit but don't fancy 2 pages packed full of words. What sort of document is it?
Rolph/Bird/Hilliard Writtle & Highwood Essex
Lister/Fitch/Kitteridge/Coote  Ashdon Essex
Coote Castle Camps Essex
Jones Kirby le Soken Essex
Kinch London/Swanbourne Bucks/Oxon
Burt Winfrith Newburgh, Dorset
Smith/Bant  Birmingham
Weatherill London/York
Hill/Habershon Sheffield
Roberts - London
Stringer - Leicester
Frost Castleton Derbys
Hall Wirksworth Derby
Allcock/Parkes Calton, Staffs
Meisenheimer Germany
Crossley/Adams Hidcote, Gloucs
R(o)ycroft Brown Malpas
Pratley BurfordOx


Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #4 on: Friday 08 May 09 22:23 BST (UK) »
Here goes, I shall post in section.

Mae'r neges yn barod i'w hanfon gyda'r ffeil neu'r atodiadau dolennog
canlynol:


Sylwch: I warchod rhag firysau cyfrifiadurol, mae rhaglenni e-bost
weithiau'n rhwystro pobl rhag anfon neu dderbyn mathau arbennig o ffeiliau
ar ffurf atodiadau. Edrychwch ar osodiadau diogelwch eich e-bost i ddewis
sut i drin atodiadau.

Agorwyd yr ysgol am 9 y bore ar Orffennaf 5ed,1869 heb y llyfrau a archebwyd ac heb fwrdd du. Mynnodd yr ymddiriedolwyr cyntaf,( y Barnwr John Johnes, Parch Henry Hones Davies, James Jones, Maesglas, David Evans, Maesneuadd, Margaret Evans, Maesyddyntir, Jemima Davies, Tai'r Dre a Daniel Evans, Gwargorof), mai ysgol anenwadol oedd hon ond bod gan y Ficer hawl i gynnal ysgol Sul yno. Byddai'r adeilad i'w ddefnyddio i addysgu plant ac oedolion o'r dosbarth gweithiol, diwydiannol a'r tlodion. Dylid darllen y Beibl yn yr Ysgol yn ddyddiol ond ni ddylid gorfodi neb i fynychu'r un Ysgol Sul na lle o addoliad. Rheolwyd yr Ysgol gan saith person a gyfrannai 16 swllt yn flynyddol tuag at yr ysgol. Cychwynnwyd adeiladu'r ysgol yn 1867 ar rhan o gae a elwir yn Llethr y dref. Disgwylid i rieni dalu am addysg eu plant ond gadawyd faint a godwyd ar bob plentyn i ddoethineb y prifathro o'i adnabyddiaeth o gefndir ariannol y teulu. Disgwylid i'r plant ddod a llawer o'r llyfrau ei hunain neu brynu rhai gan y prifathro.(Nodir yn 1882 bod ôl ddyledion rhai teuluoedd a fedrai brofi na fedrent dalu wedi cael eu dileu)Yn 1887 nodir gostyngiad o 3c i 1g yr wythnos am blant y babanod, 2g am bob safon arall, gyda gostyngiad am dalu ar ddechrau pob chwarter.


Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #5 on: Friday 08 May 09 22:24 BST (UK) »
second section :

Yr unig athro yma ar y cychwyn oedd y Prifathro. Erbyn yr hydref daeth Miss Elizabeth Rees i helpu i ddysgu gwnio. Gwnaed defnydd o 'Monitors' i ddysgu'r plant lleiaf ac yna 'Pupil teachers' yn ddi-dâl. Cyflogwyd athrawes yn gyson o 1894 ymlaen. Hyd Rhagfyr 1871 y plant fyddai'n cynnau tân yn yr ysgol yn y bore. Er hynny cofnodir yn Ionawr 1895 "Children too cold to write".

Yn ôl adroddiadau'r prifathro yn y llyfr log bu gwaith ar y cychwyn cyntaf yn galed iawn gan nad oedd ond dau neu dri a wyddai ddim am rifyddeg, yn gallu ysgrifennu'n ddealladwy, yn darllen yn gywir ac nid oedd yn bosibl parhau â'r gwaith heb iddynt ddod i ddeall Saesneg. Cyn pen deufis bu'n rhaid i'r prifathro, Mr. Thomas Rees Coles, gael gwyliau yn Aberaeron i adfer ei iechyd .Gadawyd yr ysgol am ychydig ddyddiau yng ngofal Mr. John Jones, Ddyfadfa a oedd yn paratoi ar gyfer mynd i'r Coleg Normal, Bangor. Wedi bod ar agor am bron i flwyddyn cafwyd adroddiad derbyniol gan yr arolygwyr er nad oedd y darllen cystal a'r ysgrifennu a'r rhifyddeg. Nodwyd bod angen llyfr derbyniadau ariannol a "ball frame"ar yr ysgol. Ar ben y flwyddyn bu bron i'r prifathro golli ei swydd am nad oedd yn mynychu'r Eglwys a'i fod yn cynnal dosbarthiadau nos yn y gaeaf a hyn yn rhwystro rhai i fynd i gwrdd gweddi ac ymarferion canu'r Eglwys. Trwy gyngor y Barnwr John Johnes, Dolaucothi fe gafodd gadw ei swydd.



Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #6 on: Friday 08 May 09 22:25 BST (UK) »


Erbyn Rhagfyr 1871 aelodau'r Bwrdd Ysgol oedd John Johnes,Y.H., Dolaucothi; Parch Evan Jones, Crugybar; Parch. H. Jones Davies, Ficerdy; Caio; Parch .J. D. Evans, Salem a David Davies, Tycerrig.
Bu gan deuluoedd bonedd yr ardal gryn ddiddordeb yn yr ysgol. Ceir sôn am gyfraniad teuluoedd Drummond Rhydodin, Lloyds Brunant a theulu Froodvale ond yn bennaf teulu'r Johnes, Dolaucothi. Galwent i gyd yn yr ysgol o dro i dro i edrych ar waith y plant, rhoddent wobrau i'r plant a threfnu te yn achlysurol i'r plant i gyd. Y Ficer gyflwynodd goeden Nadolig i'r ysgol yn Ionawr 1878 ac fe addurnwyd yr ystafell gan wragedd yr ystadau. Trefnai'r Johnes' de a mabolgampau i blant yr ysgol ac i blant ysgolion eraill y plwyf bron yn flynyddol neu i ddathlu achlysur teuluol neu genedlaethol. Yn 1871 trefnodd teulu Dolaucothi i'r Dr. Joseph Parry ddod i gynnal cyngerdd i godi arian i'r ysgol.
Amrywiai nifer y plant ar y gofrestr ar y cychwyn yn ôl y tymhorau, llawer mwy yn bresennol dros y gaeaf pan nad oedd cymaint o waith i'r plant ar y ffermydd, ond gyda deddfwriaeth 1878 daeth y nifer yn fwy sefydlog . Cofnodir yn 1896 bod 112 o blant yn mynychu'r ysgol ond yn ôl tystiolaeth cyn- ddisgybl bu yma 120 ar un adeg. Yn 1901 roedd 82 o blant yn yr ysgol ac roedd yn costio £2-11-13/4 i addysgu pob plentyn. Cofnodir nifer o resymau heblaw afiechyd am absenoldeb- cynhaeaf, plannu a chodi tatws, cneifio, casglu mes, casglu rhisgl y coed, tywydd garw, ffusto adar ar ystâd Dolaucothi a chario offer pysgota Syr James Hills Johnes ! Caewyd yr ysgol am rai misoedd yn 1885 oherwydd y frech goch ac yn 1908 a 1920 oherwydd diptheria ac am fis yn 1919 oherwydd y ffliw. Bu'n rhaid sgwrio'r ysgol a diheintydd a llosgi canhwyllau carbolic am gyfnod yn 1896 oherwydd scarlet fever. Gwelwyd cofnod am nifer o blant gollwyd oherwydd gwaeledd megis croup, diptheria , scarlet fever,apendics, leukaemia, ac o leiaf un oherwydd damwain.

Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #7 on: Friday 08 May 09 22:25 BST (UK) »
Doedd dim patrwm sefydlog i wyliau'r ysgol ar y cychwyn. Cafwyd diwrnod i ffwrdd ar ddydd Nadolig. Ceir sôn am gael dydd i ffwrdd ar ddydd calan gan fod y plant yn mynd allan i gasglu calennig('Cardota'- yn ôl y prifathro). Cafwyd nifer helaeth o ddyddiau pan gaewyd yr ysgol am y dydd- Cwrdd yn yr Eglwys neu'r Capel, Penny Reading, cyngerdd, eisteddfod, sioe, ffeiriau, trip yr ysgol Sul, Cymdeithas Elusennol y Frân Wen, sêl fferm, Comisiynwyr Elusennol, neithior, agor pont Glanrannell yn 1925, gorsaf bleidleisio yn gyson o 1885, partïon dathlu achlysuron cenedlaethol a theuluol y gwir bonheddig. Yn 1891 caewyd yr ysgol am ddiwrnod i'w golchi lawr ar gyfer Gwyl Gerddorol. Parhawyd â'r arfer o gau ar gyfer Cwrdd Diolchgarwch yr Eglwys a dydd Sioe Llanbed tan yr 1970au.
Defnyddiwyd yr ysgol i gynnal cyfarfodydd cymdeithasau lleol o'r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Trefnwyd cyngerdd o ddoniau'r plant lleol yn 1875 i gasglu arian at sefydlu llyfrgell i'r ardal. Cadwyd offer y 'Caio Fife and Drum Band' yn yr Ysgol er mwyn eu cadw'n sych. Roedd yma Gerddorfa'r Annell hefyd tua'r un adeg.
Yn 1902 cafodd wyth plentyn fedal am beidio colli diwrnod o ysgol am flwyddyn gyfan, ond yn 1974 roedd Arwel Jenkins yn yr ysgol yn ddi-dor am bedair mlynedd. Ni safodd ei record yn hir gan fod Rosina Jones y flwyddyn ddilynol wedi bod yn bresennol am bum mlynedd heb golli diwrnod. Ym mlynyddoedd cynnar yr ysgol rhoddwyd pwyslais ar ddysgu rhifyddeg, darllen ac ysgrifennu Saesneg, arlunio, canu a gwnio ar gyfer y merched . Ond erbyn 1893 a Mr Parry yma`n brifathro ceir sôn am ddysgu Algebra a Ffrangeg yn ogystal a chyfeirio at Syr James Hills Johnes yn rhoi darlith mewn daearyddiaeth. Tipyn llai na'r cwricwlwm cenedlaethol heddiw! Yn 1884 cofnodir bod yr ysgol wedi derbyn gyda llawenydd gopi o "Lambs' Tales" a "Robinson Cruisoe". Rhoddodd Lady Hills -Johnes fenthyg 'magic lantern' i'r prifathro gael dangos lluniau o daith ar draws Canada i'r plant. Ond mae'n siwr bod y bechgyn wedi teimlo hyd yn oed fwy o lawenydd yn 1872 pan lwyddwyd i gael digon o nawdd i brynu pêl droed i chwarae ar yr iard ac yn 1882 cafwyd rhodd o ddwy bêl gan Mr Rees o'r Amwythig. Yn 1896 ceir y cyfeiriad am ddysgu penillion i'r babanod yn y Gymraeg. Ond cynyddu gwnaeth y defnydd o'r Gymraeg gan ddysgu dramâu ac adroddiadau Cymraeg. Wedi ymweliad un o arolygwyr ei Mawrhydi 1952 cychwynnwyd cofnodi yn y Gymraeg yn y llyfr log. Y merched cyntaf i fynd ymlaen i ysgol uwchradd oedd Meima Davies, Maestwynog a Mabel Bartley Cwmcrych a basiodd y scholarship i fynd i i'r Intermediate School newydd yn Llanymddyfri. Cafwyd nifer o gyfeiriadau am eraill yn pasio'r Scholarship ers hynny naill ai i'r Coleg yn Llanymddyfri, y College School yn Llanbed neu ysgolion gramadeg Llandeilo a Llanymddyfri. Nodir bod cyn ddisgyblion eraill wedi mynd i brifysgolion gan gynnwys Thomas Evans a Carys Jones i Gaergrawnt.

Offline CaioResearcher

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
    • View Profile
Re: Translation help please
« Reply #8 on: Friday 08 May 09 22:28 BST (UK) »
Yn 1902 sefydlwyd gardd tu ôl i'r ysgol. Yn 1926 cofnodir bod y deintydd yn ymweld â'r ysgol, arfer a barhaodd hyd y 1990au.Yn 1932, wedi marwolaeth Lady Hills Johnes, ffurfiwyd Cymdeithas Mabolgampau Ysgolion Dyffryn Cothi i drefnu mabolgampau rhwng ysgolion y cylch. Roedd cystadleuaeth griced yn bodoli cyn hyn a'r brif wobr oedd tarian Dolau Cothi. Yn 1962 ymunodd yr un ysgolion i gynnal Cymanfa Ganu flynyddol. Trowyd un dosbarth yn gegin yn y 40au er mwyn paratoi cinio twym i'r plant. Yn 1955 cysylltwyd yr ysgol â'r cyflenwad dwr cyhoeddus a thrydan yn 1956. Prynwyd y cyfrifiadur cyntaf gyda chymorth arian cronfa'r Ysgol yn 1984. Pan gaewyd Ysgol Cwrtycadno yn 1971 ac Ysgol Crugybar yn 1995 lledaenodd dalgylch yr ysgol yn sylweddol. Ataliodd rhieni Pumsaint eu plant rhag dod i'r Ysgol am gyfnod yn 1969 gan bod y Cyngor Sir yn gwrthod talu am y cludiant. Cadw'r plant gartref wnaeth y rhieni hefyd er mwyn cael caban a chelfi ynddo yn 1978.
Nodir bod rhai o'r cyn ddisgyblion wedi colli eu bywyd yn y ddau ryfel byd. Anfonwyd 25 sgarff wedi gwau i'r milwyr yn 1915 ac yna hamper o gynnyrch fferm a gardd i'r milwyr clwyfedig yn Ysbyty Llanymddyfri. Yna yn 1916 anfonwyd parsel i T Jones oedd yn garcharor rhyfel yn yr Almaen. Daeth faciwîs o ardal Eastbourne i'r ysgol yn 1940.
Daeth llwyddiant i nifer o'r plant mewn cystadlaethau amrywiol dros y blynyddoedd rhai`n lleol yn eisteddfod Pumsaint a Chwrtycadno, eraill yn y Rotari neu yr Urdd yn lleol, sirol a chenedlaethol a chystadlaethau agored amrywiol. Ond yn ddiau gwelir cyn ddisgyblion yr ysgol ar eu gorau trwy'r blynyddoedd yn cyfrannu i gynnal diwylliant a gweithgarwch eu bro ple bynnag maent yn byw.