Erbyn Rhagfyr 1871 aelodau'r Bwrdd Ysgol oedd John Johnes,Y.H., Dolaucothi; Parch Evan Jones, Crugybar; Parch. H. Jones Davies, Ficerdy; Caio; Parch .J. D. Evans, Salem a David Davies, Tycerrig.
Bu gan deuluoedd bonedd yr ardal gryn ddiddordeb yn yr ysgol. Ceir sôn am gyfraniad teuluoedd Drummond Rhydodin, Lloyds Brunant a theulu Froodvale ond yn bennaf teulu'r Johnes, Dolaucothi. Galwent i gyd yn yr ysgol o dro i dro i edrych ar waith y plant, rhoddent wobrau i'r plant a threfnu te yn achlysurol i'r plant i gyd. Y Ficer gyflwynodd goeden Nadolig i'r ysgol yn Ionawr 1878 ac fe addurnwyd yr ystafell gan wragedd yr ystadau. Trefnai'r Johnes' de a mabolgampau i blant yr ysgol ac i blant ysgolion eraill y plwyf bron yn flynyddol neu i ddathlu achlysur teuluol neu genedlaethol. Yn 1871 trefnodd teulu Dolaucothi i'r Dr. Joseph Parry ddod i gynnal cyngerdd i godi arian i'r ysgol.
Amrywiai nifer y plant ar y gofrestr ar y cychwyn yn ôl y tymhorau, llawer mwy yn bresennol dros y gaeaf pan nad oedd cymaint o waith i'r plant ar y ffermydd, ond gyda deddfwriaeth 1878 daeth y nifer yn fwy sefydlog . Cofnodir yn 1896 bod 112 o blant yn mynychu'r ysgol ond yn ôl tystiolaeth cyn- ddisgybl bu yma 120 ar un adeg. Yn 1901 roedd 82 o blant yn yr ysgol ac roedd yn costio £2-11-13/4 i addysgu pob plentyn. Cofnodir nifer o resymau heblaw afiechyd am absenoldeb- cynhaeaf, plannu a chodi tatws, cneifio, casglu mes, casglu rhisgl y coed, tywydd garw, ffusto adar ar ystâd Dolaucothi a chario offer pysgota Syr James Hills Johnes ! Caewyd yr ysgol am rai misoedd yn 1885 oherwydd y frech goch ac yn 1908 a 1920 oherwydd diptheria ac am fis yn 1919 oherwydd y ffliw. Bu'n rhaid sgwrio'r ysgol a diheintydd a llosgi canhwyllau carbolic am gyfnod yn 1896 oherwydd scarlet fever. Gwelwyd cofnod am nifer o blant gollwyd oherwydd gwaeledd megis croup, diptheria , scarlet fever,apendics, leukaemia, ac o leiaf un oherwydd damwain.