Mae nifer fawr o ymchwilwyr hel achau yn ymchwilio am deuluoedd o Loegr. Prin iawn yw’r rhai sydd heb berthnasau rhywle yn eu hach sydd wedi symud I Gymru o Loegr. Daeth cangen o’n nheulu i i weithio yng nghymoedd glo y De yn y 1880au – o’r Amwythig – maen’t yn Gymry i’r carn bellach wrth gwrs. Meddyliwch am enwau rhai o fawrion y genedl – Wigley, Kinnock, Macintire, Lynch, Bebb, Giggs ac ati. Mae nifer mwy ohonom ag aelodau o’n teuluoedd wedi mudo i Loegr, gwledydd eraill Ynysoedd Prydain a phellach i fwrdd, felly rhannwch wybodaeth am eich teuluoedd o Loegr trwy’r Gymraeg hefyd. Cefais y profiad hyfryd rhyw ddwy flynedd yn ôl o ddarganfod bod fy ngwas priodas, Cymro Cymraeg a’i wreiddiau yn ddwfn yn ei fro ac a magwyd gyda fi yn Nolgellau yn perthyn imi drwy deulu o’r enw Crump o Pontesbury Lloegr 150 mlynedd yn ôl!
Y brif reswm pam nad yw Cymry Cymraeg yn ysgrifennu Cymraeg yw ofn nad yw eu Cymraeg yn ddigon da – rhywbeth sydd ddim yn poeni dysgwyr – dyna pham ceir llawer mwy o ddysgwyr yn cyfrannu i’r we trwy’r Gymraeg na cheir o Gymry cynhenid, mae gwir angen magu hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg pob dydd i ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.