Noswaith dda i chi gyd,
Fe'm ganwyd i yn Sir Gaerfyrddin, ond symud wnaeth y teulu (a minnau gyda nhw wrth gwrs.......) pan oeddwn yn chwech oed, i Sir Aberteifi. Ond ers 33 mlynedd, yr wyf yn byw a gweithio ym Mhowys. Sais yw'r gwr o Loeger, ond mae e' wedi dysgu digon i ddeall Cymraeg, ond dydy e' ddim yn fodlon siarad rhag ofn gwneud camgymeriadau..........
Mae'n braf gweld y Cymry / a'r Saeson (dysgwyr neu rhugl) yn ymarfer eu Cymraeg ar "Rootschat"............
Daliwch ati bawb ..........
Cofion gorau,
Alltcafan