Mae yna nifer o lefydd ar y we lle gellir cael sgwrs Cymraeg bellach. Dyma rhai ohonynt:
Y Fforwm Lle i drafod Gwleidyddiaeth Cymru, Prydain ag Ewrop a'r lle i roi'r byd yn ei le.
Maes E. Lle i drafod bron iawn pob pwnc dan haul ond yn apelio mwyaf at faterion ieuenctid
Dim Cwsg y Lle i Famau, Tadau, Neiniau, Teidiau a phawb arall sy'n magu plant cael deud eu deud, gofyn am gymorth a thynnu eu gwallt allan yn gyhoeddus (heb fod neb yn barnu)
Sgarmes Y lle i drafod Rygbi trwy'r Gymraeg
Cic Hosan Y lle i drafod Pêl droed drwy'r Gymraeg
Ond cofiwch mai'r unig le i drafod Hel Achau drwy'r Gymraeg yw bwrdd Cymraeg Rootschat!Un nodyn pwysig. Peidiwch â bod ofn nad yw eich Cymraeg
dim yn ddigon da ar ddim un o'r byrddau trafod (
yn arbennig ar fwrdd Cymraeg Rootschat). Y peth pwysig yw
sgwrsio Cymraeg, nid cywirdeb iaith a gramadeg.
Ar bob un o'r byrddau yma (gan gynnwys un Rootschat) os oes rhywun yn ymateb gan ddweud:
Nad yw dy dreigliad meddal ar ôl dy yn draethiadol mewn cyswllt a rhagddodiad dy adferf mewn cysylltiad â gwrthrych y ferf yn gywir (neu ryw c*%* tebyg).
Nhw - nid chi bydd yn cael
chwip din gan y cymedrolwr.
