Author Topic: Does neb yn siarad Cymraeg?  (Read 98476 times)

Offline mam i ddau

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 58
  • my great gran - Beatrice Fallows nee Siggers
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #45 on: Saturday 14 March 09 14:29 GMT (UK) »
Wi'n dod o Sir Benfro yn wreiddiol, ond ym myw yn Abertawe nawr!  Odi cymraeg i mor amlwg a hynny!???! ;D

Siggers/Fallows/Candler/Levell/Downing/Olive - mine
Houlbrook/Cordingley/Nunn/Foster/BrittonIillingworth/Lees/Stratford - his

Offline eric

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 332
  • Thank you for any help
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #46 on: Saturday 14 March 09 16:11 GMT (UK) »
Mae Cymraeg y de yn llawer mwy main na'r gogledd ond mae gen i lawer o ffrindiau o'r de felly nid yw yn broblem o gwbwl.Hefyd mae rhaglenni teledu yn gymysgfa o dafodiaith y de a'r gogledd.Dwi'n dod o Sir Ddinbych yn wreiddiol ond yn byw ar Ynys Mon ers tua chwarter canrif bellach.Hwyl Al

Offline mam i ddau

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 58
  • my great gran - Beatrice Fallows nee Siggers
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #47 on: Saturday 14 March 09 16:20 GMT (UK) »
Mae'n ferch i'n pedair mlwydd oed, ac er mae'r dwy ohonom wedi magu yn y De, mae'n siarad cymraeg gwahanol i mi weithiau!  dwi'n defnyddio Cymraeg sir benfro, dweud pethe fel," ma'n wer heddi,"  ac mae hi'n ddweud "oer" ac yn cywiro fi!  mae'n mynd i Ysgol Gymraeg, ac mae Miss yn cael tipyn mwy o ddylanwad arni na fi nawr!  Diolch am y croeso hefyd!  braf cael sgwrsio yn y gymraeg!   
Siggers/Fallows/Candler/Levell/Downing/Olive - mine
Houlbrook/Cordingley/Nunn/Foster/BrittonIillingworth/Lees/Stratford - his

Offline eric

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 332
  • Thank you for any help
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #48 on: Thursday 19 March 09 17:14 GMT (UK) »
Mae gen i dri mab ac un ferch.Mae'r pedwar yn siarad Cymraeg ond nid ydynt cystal ar bapur.Y rheswm am hynny ydi am inni orfod symud i fyw i Loegr am gyfnod o tua chwe mlynedd pan oeddynt yn blant.Felly ni chafodd tri ohonynt y sylfaen ond fe gafodd y fenga ei fagu yng Nghymru fach .Dyna'r rheswm inni ddod yn ol i fyw i Fon er mwyn iddo dyfu i fyny yn Gymro.Erbyn hyn mae'r pedwar yn byw ac yn gweithio yn Lloegr am nad oed gwaith iddynt yma.Felly nid ydynt yn cael y cyfle i siarad Cymraeg ond pan y dont adre.Nid yw fy ngwr,sef eu tad ,yn siarad Cymraeg felly mae'r aelwyd yn ddwy ieithog!Mae'n dda bod eich merch fach yn cael y cyfle i fynd i ysgol Gymraeg.Pb hwyl ichwi Al


Offline heitch

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 103
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #49 on: Thursday 11 June 09 23:51 BST (UK) »
Dwi'n iawn yn "siarad" Cymraeg, ond yn ddiflas ar yr ysrgifennu :-[

???????????
Powell, Montgomeryshire
Venables, Montgomeryshire
Davies, Llanbedr & Llanfihangel y Traethau, Merionethshire
Jason, Caernarvonshire & Merionethshire

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #50 on: Friday 12 June 09 21:06 BST (UK) »
Hai Heitch,
          Croeso i'r cylch Cymraeg!  :)
                 Does dim ots sut mae rhywun yn sgrifennu yn fan hyn - dim marciau, gwaith cartref nac arholiadau - hwre!
                  Mae'n braf gweld ambell i air gan y Cymry Cymraeg, a rhoi gwybodaeth os oes gan rywun rywbeth gwerth ei ddweud (hynny ddim yn digwydd i mi yn aml).
                 Hwyl ar y chwilio,
                                              Pinot

Offline Charles IX

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 216
  • GGG-Grandfather Ambrose Pontin 1830-1907
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #51 on: Saturday 13 June 09 09:09 BST (UK) »
Dwi'n yr un peth a Heitch, dwi'n galli siarad cymreag dda, ond fi heb ysgrifennu yn cymraeg ers ysgol  :-[
Charles, late1600> - LLanddeusant/Merthyr tydfil/Port Talbot
Brown 1836 - Cardiff
Campbell abt.1820 - Liverpool/Port Talbot
Davey 1716 - Devon/Neath
Morgan 1819 - Llangynwyd/Port Talbot
Pontin 1693 -  Wiltshire/Methyr Tydfil
Berridge 1723 - Northampton/Cardiff
Clement 1740 - Devon/south wales
Bishop 1819> - Shropshire/Cardiff
McNally/McNelly/McAnally/McNalley 1820> - Ireland/Cumberland/Brecon

*Absolutely any information about the Llanddeusant area*

Offline keijei

  • RootsChat Pioneer
  • *
  • Posts: 1
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #52 on: Thursday 25 June 09 12:01 BST (UK) »
Helo bawb, falch o weld nad oes neb yn marcio'r ffordd ma rhywun yn sgwennu yma. Dwi'n tueddu i sgwennu fel dwi'n siarad Cymraeg a gan mod i o Borthmadog yn wreiddiol, felna fyddai'n siarad a sgwennu.
Dwi yn byw yn Awstralia ac newydd ddechra rhoi stwff teuluol fy nhad yng nghyfrath ar y cyfrifiadur. Mae ganddo lwythi o waith papur ac mae'n reit anodd ffendio ffordd drwyddo fo i gyd ond dwi meddwl mod i wedi dechra'n o lew.

Hwyl. Keijei

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Does neb yn siarad Cymraeg?
« Reply #53 on: Thursday 25 June 09 15:33 BST (UK) »
Hai Keijei a chroeso i Rootschat!
        Mae gen i lawer o deulu yn Awstralia, brawd fy mam wedi mudo yno ers talwm a magu teulu go fawr erbyn hyn. Cneithar imi'n dal i hedfan draw bob rhyw ddwy flynedd i fynd rownd y teulu i gyd; neb ohonyn nhw'n siarad Cymraeg - hogan leol oedd ei wraig o heb air o Gymraeg.
       Pob lwc efo'r croniclo - mae gen i ffordd go bell i fynd fy hun; dydw i ddim yn arbenigwr ar y cyfrifiadur na rhaglenni hel achau, ond mae 'na ddigon o bobl yma sydd (ond bod rhywun yn gorfod troi i'r Saesneg efo rheiny).
                      Hwyl am y tro,
                                   Pinot  :)