4
« on: Saturday 10 December 22 14:49 GMT (UK) »
Cefais help ddoe datrus dirgelwch hen lyfr llawn Cerddi a pharablau yn llawsgrifen David Pugh o Merthyr Vale. Dechreuodd ysgrifennu yn y llyfr 9ed Rhagfyr 1922. Dyma darn o gerddoriaeth am y Nadolig ymddangosodd yn y 'scribble book'
Swn Nadolig sydd yn dod
Llawn mor swynol ag erioed
Sua'r awel swn y geni
Fi yn Bethlehem ar ein rhan
Plant sy'n gofyn am ei rhoddion
Heddiw gan ei tad au mam
Swn y canu byth anghofir
Gan fugeiliaid Bethlehem
Hen gantorion gwlad y wynfa
Rhai fu'n canu uwch ei pen
Tybiai rhai fod Gabriel yno
Yn arweinydd ar y cor
Dyblu wnaeth yr Haleliwia
Iddo Ef dros dir a môr"!