RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: David Neil on Saturday 10 December 22 14:49 GMT (UK)

Title: Ceredd Nadolig
Post by: David Neil on Saturday 10 December 22 14:49 GMT (UK)
Cefais help ddoe datrus dirgelwch hen lyfr llawn Cerddi a pharablau yn llawsgrifen David Pugh o Merthyr Vale. Dechreuodd ysgrifennu yn y llyfr 9ed Rhagfyr 1922. Dyma darn o gerddoriaeth am y Nadolig ymddangosodd yn y 'scribble book'

Swn Nadolig sydd yn dod
Llawn mor swynol ag erioed
Sua'r awel swn y geni
Fi yn Bethlehem ar ein rhan
Plant sy'n gofyn am ei rhoddion
Heddiw gan ei tad au mam

Swn y canu byth anghofir
Gan fugeiliaid Bethlehem
Hen gantorion gwlad y wynfa
Rhai fu'n canu uwch ei pen

Tybiai rhai fod Gabriel yno
Yn arweinydd ar y cor
Dyblu wnaeth yr Haleliwia
Iddo Ef dros dir a môr"!
Title: Re: Cerdd Nadolig
Post by: David Neil on Saturday 10 December 22 14:52 GMT (UK)
Drwg gennyf am y cam syllafiad yn y post danfonais munud ynol. 'Cerdd Nadolig' yw'r teitl cywir.
Title: Re: Ceredd Nadolig
Post by: Mike in Cumbria on Saturday 10 December 22 14:59 GMT (UK)
Neis iawn. A ysgrifennodd David Pugh hyn?
Title: Re: Ceredd Nadolig
Post by: David Neil on Saturday 10 December 22 15:31 GMT (UK)
Diolch. Does dim enw o dan unrhyw darn o gerddoriaeth yn y llyfr. Dw i'n cymryd felly taw David Pugh yw awdur pob darn o gerddoriaeth yn y llyfr.

David Neil