RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: wendythomas on Saturday 25 July 20 11:12 BST (UK)
-
Mi fyswn wrth fy modd gweld hanes cnebrwn fy hen,hen nain a taid yn y papurau newydd os oes gan rywun fynediad i hen bapurau newydd.Bu farw fy hen,hen nain Laura Griffith o Hendy,Sarn Mellteyrn,Pwllheli 19/03/1915 yn 79 oed a fy hen,hen daid John Griffith,Hendy Sarn Mellteyrn 27/02/1907 yn 86 oed.
-
Mae hi'n bosib mynd ar safle hen bapurau newydd y llyfrgell genedlaethol am ddim a wedyn rhoi enw'r person ar flwyddyn a gweld be ddaw I fyny. Mae papurau hyd at 1919 yno https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru
-
Diolch,dim wedi cael hyd i ddim yn anffodus.
-
Hi
Y Genedl, 13/04/1915:
SARN - CLADDU
Ar y 19eg o Fawrth, bu farw Mrs Griffith, Hendy, Sarn, yn 79 mlwydd oed, a chladdwyd hi ar y 24ain ym mynwent Meillteyrn (angladd preifat.) Genedigol o Glanmorfa, Abererch, ydoedd, ac ystyrid hi yn wraig hoffus a chymeradwy. Gedy saith o blant ac amryw wyrion i alaru ar ei hol. Dymunir ar i'r "Drych" gofnodi yr uchod.
Yn colofn Marwolaethau Y Drych, 13/05/1915:
Pwllheli. - Mawrth 19, Mrs Griffith, mam Evan J Griffith, Hendy, Sarn, yn 79 oed.
Mae'na Mrs Griffiths, Hendy, Sarn wedi enill ar wneud torth wen, yn Arddongosfa Tydweiliog, Sadwrn 14eg Awst, 1915. Hanes yn Yr Herald Cymraeg, 24ain Awst 1915.
Gwybodaeth o wefan Llyfrgell Cenedlaethol Cymru:
https://newspapers.library.wales/search?range%5Bmin%5D=1915&range%5Bmax%5D=1915&query=griffith+AND+hendy+AND+sarn
Chwiliaf am y llall ym munud.
Emyr
-
Hi
Gweld yn gwefan YFfor fod John wedi ei gladdu 04/03/1907, ond wedi methu ffeindio dim yn y papurau.
Emyr
-
Diolch Emyr.
-
Na finnau - ond dyma hanes tas wair John Griffith yn cael ei dinistrio
https://newspapers.library.wales/view/3601482/3601485/22/
-
Diolch Mabel,diddorol iawn.