RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Monday 09 November 15 07:59 GMT (UK)

Title: Cofnodion capeli anghydffurfiol
Post by: Huwcyn on Monday 09 November 15 07:59 GMT (UK)
Mae 'FindMyPast' bellach yn dangos nifer fawr o gofnodion geni, priodi a chladdu eglwysig. A yw cofnodion cyfatebol ar gyfer e.e. capeli Presbyteraidd yn bodoli ? . Os felly, lle fuasai rhywun yn mynd i dwrio ?. Dwi'n sylwi fod ambell un yn bodoli tan tua 1840, ond dim byd i'w gael wedyn.
Title: Re: Cofnodion capeli anghydffurfiol
Post by: ElRow on Thursday 19 November 15 23:28 GMT (UK)
Helo Huwcyn
Y broblem fwyaf gyda'r Capeli yw fod llawer ohonnyn nhw yn cadw'i Llyfrau Cofnodi yn y capeli, naill ai mewn 'safe' neu mewn rhyw focs yn y capel. Mae'r llyfrau yma yn rhai mawr ac felly yn cymryd blynyddoedd i'w llanw. Efallai fod yna fwy nag un llyfr mewn capel. Does dim reidrwydd i unrhyw swyddogion capel i roi'r llyfrau yma mewn Archifdy. Rydyn ni'n ffodus iawn pan fydd rhyw ysgrifennydd mewn capel yn sylweddoli y gallai'r llyfrau yma fod yn fwy diogel mewn Archifdy na mewn capel.
Eleri
Title: Re: Cofnodion capeli anghydffurfiol
Post by: Dolgellau on Thursday 06 October 16 06:28 BST (UK)
Cyn 1836 doedd dim hawl priodi ond mewn Eglwys Anglicanaidd, Synagog Iddewig, neu Dŷ Cwrdd y Crynwyr.

Wedi 1836 roedd modd priodi mewn capeli anghydffurfiol os oedd y capel wedi ei gofrestru fel man priodi a bod cofrestrydd sifl yn bresenol, a bu modd cael priodas sifl, di grefydd, mewn swyddfa cofrestrydd.

Priodas sifl yw priodas capel sy'n cael ei wanhaniaethu ar dystysgrif gyda'r geiriau "according to the rights of the xxxx church"

Does dim "cofnodion capel" swyddogol y cyfnod. Siawns bod rai answyddogol ar gael mewn archifdai leol. Ond bydd priodas anghydffurfiol, fel arfer yn cael ei gyfrif fel priodas sifl ar wefanau megis

http://www.northwalesbmd.org.uk/index-c.php

Mae modd chwilio am briodasau anghydffurfiol drwy chwilio hysbys deuluol ar
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/home