RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Dolgellau on Saturday 16 March 13 03:41 GMT (UK)

Title: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: Dolgellau on Saturday 16 March 13 03:41 GMT (UK)
Adnodd newydd gan LLGC Papurau Newyddion Cymreig Hanesyddol Arlein. Lle da i weld cyhoeddiadau geni-priodi-marw, hen daid o flaen ei well, hysbysebion y busnes teuluol ac ati

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/home?

(NB mae'r marc cwestiwn yn rhan o'r URL)
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: trystan on Wednesday 20 March 13 14:51 GMT (UK)
Mae'n gweithio heb y darn olaf 'na hefyd:

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/

Trystan
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: merchcymraeg on Monday 17 June 13 21:29 BST (UK)
diolch yn fawr iawn
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: Dolgellau on Tuesday 18 June 13 01:36 BST (UK)
Os ydych wedi trio yr adnodd yma ac heb cael hyd i wybodaeth bydd gwerth ail drio yn achlysurol. Mae nifer mawr iawn o deitlau newydd am gael eu hategu drost cyfnod yr haf. Mae restr llawn o'r teitlau sydd ar y gweill iw gweld yma:


http://www.llgc.org.uk/index.php?id=4723
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: merchcymraeg on Tuesday 18 June 13 12:15 BST (UK)
hi a diolch mawr ichi eto wthi'n darllen hanes streic chwarel pesda
ag unrhyw 'titbit' am bethesda dwi'n dod ar draws, lle
diddorol iawn efallau gai rhywbeth am y teulu pan fydd papurau
caernarfon wedi cael eu gorffen, dim prys, mae'r gaeaf yn ddigon hir.
hwyl
x

Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: Dolgellau on Wednesday 19 April 17 01:29 BST (UK)
Mae yna chwaer prosiect i Bapurau Newyddion Cymru ar gael gan y Llyfrgell Genedlaethol bellach sef Cylchgronau Cymru (fersiwn beta ar hyn o bryd)

https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/home (https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/home)

''Mae Cylchgronau Cymru'n darparu mynediad i gylchgronau'n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2007. Mae'r teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.'' Mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o’r cylchgronau enwadol gyda’u cofiannau i grefyddwyr, yn aml yn rhoi llawer mwy o fanylion bywgraffiadol na’r papurau.
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: merchcymraeg on Friday 21 April 17 22:07 BST (UK)
Diolch am y rhannu
oes yna gymorth sut i ddarllen y tudalen yn iawn?
Diolch
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: pinot on Thursday 27 April 17 01:41 BST (UK)
Diolch am y cyswllt; gwych o adnodd!
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: Dolgellau on Friday 28 April 17 03:15 BST (UK)
Diolch am y rhannu
oes yna gymorth sut i ddarllen y tudalen yn iawn?
Diolch

Be 'di'r broblem wrth geisio darllen y tudalenau?
Title: Re: Papurau Newyddion Cymreig Arlein
Post by: merchcymraeg on Sunday 30 April 17 11:33 BST (UK)
Hi Dolgellau

Wedi dod i'r penderfyniad nha'r cyfrifiadurol oedd yn fy rhwystro rhag darllen y dudalen gyfan.
Pethau yn iawn rhwan.
unwaith eto diolch am ateb