RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Saturday 08 September 12 20:39 BST (UK)

Title: Llyfr Ceiri Gruffydd
Post by: Huwcyn on Saturday 08 September 12 20:39 BST (UK)
Credaf fod yr argraffiad newydd bellach ar gael yn y siopau ( Yn ol ' Y Cymro' heddiw ) .
Y cyntaf i'r felin !
Title: Re: Llyfr Ceiri Gruffydd
Post by: pinot on Saturday 08 September 12 23:41 BST (UK)
        Wedi'i brynu ers dyddiau; roedd i fod allan yn yr Eisteddfod ond clywais i'r wasg oedd yn gwneud y gwaith rhwymo gael problemau. Efo lwc byddwch yn medru'i brofi yn eich llyfrgell lleol cyn gosod £24.95 i lawr i'w brynu; mae'n werth yr arian os medrwch eu fforddio ac nad oeddech wedi prynu'r argraffiad gwreiddiol, ond wn i ddim eto faint o ychwanegu (a chywiro) sydd wedi bod iddo.
        Mae'n siwr fod gan Sion Corn stoc go lew . . .
Title: Re: Llyfr Ceiri Gruffydd
Post by: Dolgellau on Friday 14 September 12 05:23 BST (UK)
Mae ar gael trwy Gwales:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781847714930&tsid=43
£24.95 & £3 ar gyfer y post
Title: Re: Llyfr Ceiri Gruffydd
Post by: pinot on Monday 17 September 12 00:02 BST (UK)
Wedi bod yn cymharu'r gyfrol newydd a'r un o'i blaen ac wedi dysgu bod rhyw ugain o dudalennau newydd o achau ynddi, er na fedra'i ddweud ar hyn o bryd faint o ychwanegu sydd wedi bod i'r cynnwys o'r llyfr o'r blaen; mae'r print chydig yn llai - oherwydd y rhifo tudalennau, fallai, ond ddim yn ormodol felly. Yn sicr mae'n werth y pris i rywun all fforddio'r arian ac yn fendith i'r rhai sydd a'i gwreiddiau yn siroedd y gogledd.
Title: Re: Llyfr Ceiri Gruffydd
Post by: Blaenau45 on Saturday 22 September 12 14:07 BST (UK)
Yr wyf wedi prynu'r gyfrol newydd gan T Ceiri Griffith ac wrth fy modd gan fod fy nheulu i o Ben Llyn ynddo.

Gyda llaw, ISBN 9781847714930 Y Lolfa. £24.95 - newydd weld hwn ar werth ar "Bae E" am £34.15 a chosta ychwanegol am ei gludo.  Yr wyf yn deall fod rhai dal ar gael ar wefan gwales.

Llyfr gwerth ei gael!

 :)