RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: wheldon on Saturday 24 December 11 16:21 GMT (UK)
-
Rwyn chwilio am wybodaeth am deulu METHUSALEM o ardal Aberdaron, yn enwedig melinydd o'r enw Evan Methusalem g.1821 m.1895 ym melin Gyrn Goch.
-
Hi
Blwyddyn Newydd Dda.
'Dwi wedi clywed rhywun yn cyfeirio at y teulu yna; 'dwi'n meddwl mai'r ddynes o'ni'n siarad efo yn yr Archifdy pan wnaethom ni gyfarfod. 'Dwi heb ei gweld ers dipyn. 'Dwi hefyd yn meddwl fy mod wedi dod ar draws yr enw ac wedi gwneud nodyn (rhywle!) ohonno er mwyn son wrthi - mi wnai chwilio amdano.
Ydi'r Gyrn Goch 'da chi'n gyfeirio ato yn yr un rhwng Clynnog a Threfor, ynteu oes'na Gyrn Goch yn ardal Aberdaron ?
Emyr
-
Blwyddyn Newydd Dda Emyr!
Diolch am yr ebost. Ia, Gyrn Goch ger Clynnog ydi'r lle!
-
Am ba fath o 'wybodaeth 'dych chi'n chwilio? Faint o 'wybodaeth sy 'da chi yn barod e.e. Cofrifiadau?
cofion cynnes a Blwyddyn Newydd Dda
-
Dw i wedi dod o hyd i'r Evan Methuselah yn y Cofrifiadau
1841 HO107 1390 1/60 11
Evan Methuselah, 21, Miller, g. Caernarvonshire
Cyfeiriad - Melin Llwyndyrys Civil Parish Abererch Reg Dist Pwllheli
1851 HO 107 2514 262 6
Evan Methuselah, Head, Marr, 30, Miller, g. Aberdaron
Mary Methuselah, Wife, Marr, 39, g. Bodvean
Laura Methuselah, Dau, 7, g. Bodvean
Sydney Methuselah, Dau, 4, g. Bodvean
Cyfeiriad Rhos y Foel Bach, Bodvean Civil Parish Bodvean Reg Dist Pwllheli
1861 RG10 4335 7 7
Evan Methuselah, Head, Marr, 41, Miller, g. Aberdaron
Mary Methuselah, Wife, Marr, g. Bodvean
Mary Methuselah, Dau, 8, g. Bodvean
Cyfeiriad Rhos y Foel, Bodvean
(Heb os, Methuselah ar y Cofrifiadau, nid Methusalem)
Eich Evan chi, efallai? Dim sôn am Evan Methusalem ym melin Gyrn Goch. Manylion y Cofrifiad 1871 i ddylin
cofion cynnes
-
Wedi cael gwybodaeth mai tad Evan Methusalem oedd Methusalem Mark sydd wedi ei gladdu yn Aberdaron.