RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Blaenau45 on Monday 28 November 11 14:22 GMT (UK)
-
Fy hen Daid ar ochr fy Nhad oedd John Harlech. Gwn iddo gael ei eni yng nghyffiniau Harlech ond tra'n gweithio yn y chwarel yn Nant Gwrtheyrn y cyfarfuodd efo fy Nain, Jane Ann Griffith. Bu iddynt briodi yn ardal Pwllheli ym 1890 a cawsant 13 o blant i gyd er y bu i ddau ohonynt farw'n ifanc.
John Jones oedd enw Tad John Harlech ... felly gellwch ddychmygu pa mor anodd ydyw darganfod ei gyndadau! Nid wyf hyd yn oed yn gwybod beth oedd enw ei Fam.
Mae John Harlech a Jane ei wraig a Margiad Ann (fy Nain) wedi eu claddu yn y fynwent yn Llithfaen.
Os oes yna rhywun a all roi unrhyw wybodaeth am y teulu yma, buaswn yn ddiolchgar iawn.
Gyda diolch
-
FreeBMD - Priodas
John Jones, Mar 1889, Pwllelhi, 11b 538. Ar yr un tudalen Jane Griffiths.
Cyfrifiad 1891 (RG12 4654 135 6)
John Griffith Jones, Head, Marr, 22, General Labourer, b. Llanbedr
Jane Ann Jones, Wife, Marr, 22, b. Pistyll
Address 12 Sea View Terrace, Pistyll, Portnant, Nevin
Cyfrifiad 1901 (RG13 5267 133 18)
John Jones, Head, Marr, Settquarry Rockman, b. Ynyscynhaiarn
Jane A Jones, Wife, Marr, 31, b. Pistyll
John S, Son, 9, b. Pistyll
Robert, Son, 8, b. Pistyll
Elizabeth M Jones, Dau, 6, b. Pistyll
Jane Jones, Dau, 3, . Pistyll
Margaret A Jones, Dau, 1, b. Pistyll
Address 12 Seaview Terrace
Yw hwn y teulu?
cofion cynnes
-
Ia, hanes teulu, dyma'r teulu.
A ydych yn gwybod rhywbeth mwy am gyndadau John Griffith Jones os gwelwch yn dda?
Gyda diolch
-
O Harlech yr oedd John Griffith Jones yn dod, heb os. Gwn fod yr ardal Harlech yn dod o dan Llanbedr, ond beth am Ynyscynhaiarn? Yr oeddwn yn meddwl mai o gwmpas Porthmadog oedd hwn - felly'n methu deall pam fod Ynyscynhaiarn yn dangos ar y cyfrifiad yn 1901?
Yng nghyfrifiad 1911 mae'n ymddangos wedi ei eni yn "Merioneth Llsarleck" (Harlech, mwy na thebyg!)
Gyda diolch Hanes Teulu
-
Na'dw - sownd ar 1891!!
Pa fath o 'waith 'wnaeth John Jones, tad John Griffith? Dych chi wedi anfon am tystysgrif priodas John a Jane? Mae 'na angen am bob tamaid o 'wybodaeth i symud ymlaen.
O'n i wedi dod iddyn nhw ar y Cyfrifiad 1911 - mae John yn gweithio ar fferm erbyn hyn. Ganed Harlech. Ganed Jane Portnant.
Ynyscynhaiarn - ym Mhortmadoc, ardal o gwmpas gorsaf y trennau dw i'n meddwl (yn ôl Google).
cofion cynnes
Rick
-
Mae Tystysgrif priodas John a Jane gennyf - "miller" oedd John Jones, tad John Harlech a'r tystion oedd Ellis Jones a Kate Griffith.
Mewn tyddyn fferm "Ty Canol" yn Nant Gwrtheyrn y ganwyd Jane Ann (Griffith) - felly mae'n debyg mai yno yr oedd John Harlech yn gweithio fel ffarmwr cyn iddo briodi Jane, er mai "miner" yw ei swydd-ddisgrifiad ar y dystysgrif briodas.
Yr wyf wedi darganfod 2x John Griffith Jones wedi eu geni o dan "Ffestiniog" sy'n cynnwys Llanbedr/Harlech a'r cylch. John Jones yw tad y ddau, a Jane yw Mam y ddau! Mae un wedi ei eni ym Mhorthmadoc, a'r ail yn Nhremadoc - diddorol mai "miller" yw swydd-ddisgrifiad tad hwn. Ond nid wyf yn tybio bod yr un o'r ddau yn gywir. Yn yr hen Sir Feirionnydd yr oedd Harlech (Llandanwg / Llanbedr / Llanfair / Llandecwyn / Llanfihangel y Traethau / Talsarnau ayyb) a Thremadog a Phorthmadog yn yr hen Sir Gaernarfon. Yr wyf yn teimlo'n weddol sicr mai o dan yr hen Sir Feirionnydd y bydd y manylion. Beth yw eich barn chi?
Unrhyw beth y gallwch ddarganfod, byddaf yn ddiolchgar iawn.
Nora
-
O'n i wedi dod o hyd i Jane cyn iddi hi phriodi â John.
Yn annffodus, ynglŷn â lle ei enedigaeth dyw John ddim yn gyson - h.y. 1891 Llanbedr, 1901 Ynyscynhaiarn a 1901 Harlech. A mae Ynyscynhaiarn yn mor benodol.
I ryw reswm dw i'n cael n'nenu at y canlynol (sa i'n gallu esbonio pam)-
1881 RG11 5553 50 18
Cathrine Jones, Head, Single, Laundress, b. Ynyscynhaiarn
John Jones, Son, 2, b. Penmorfa
Ellis Jones, Nephew, b. Penmorfa.
Cyfeiriad Tyn Lon, Penmorfa
Dyw oedran John ddim yn hollol gywir a dyma nhw 1871 - RG10 5700 45 9
Fel arall, beth am (FreeBMD)
John Griffith Jones, Sep 1869, Festiniog, 11b 447
John Griffith Jones, Sep 1869, Festiniog, 11b 449
Beth bynnag, cydymdeimladau a phob lwc
Rick
Fi, dw i'n hel y cyfenw "Oxenham" - dyna 'wahaniaeth.
-
Fallai byddai'n help ichi wybod, Nora, fod ardal gofrestru Ffestiniog yn ymestyn (ers talwm, beth bynnag) ymhell tu hwnt i ffiniau Sir Feirionnydd i mewn i Sir Gaernarfon, sydd yn medru camarwain rhywun.
Pinot
-
O dan Llandanwg yr oedd Harlech
-
:)
Diolch i Hanes Teulu am wneud ymchwil ar fy rhan - mae'n ddrwg gennyf nad wyf wedi ymateb yng nghynt.
Diolch hefyd i Pinot am ymateb, ac i Elbac am gadarnhau mai o dan Llandanwg yr oedd Harlech.
Yn anffodus, nid oes un ymchwiliad yr wyf wedi ei wneud hyd yn hyn wedi rhoi mwy o wybodaeth i mi am fy Nhaid.
Dal ati ydy'r gamp ynde?
Diolch o galon i bawb a Nadolig Llawen i chi i gyd.
-
Diolch am yr ymateb.
Sori i glywed am brinder eich cynnydd. Cyfenw Jones - bron ag amhosibl i'w olrhain, weithiau.
Ond "dyfal donc ..." medde nhw.
Pob lwc a Nadolig Llawen i chi
-
Nadolig Llawen,
Ni fedraf edrych mwy ar y funyd am fod fy 'Find My Past' wedi rhedeg allan.Yr wyf am ymuno a 'Ancestry.com yn y Flwyddyn Newydd. Er hynnu mae Census Rhydd i Llandanwg 1851.Mae 3 John Jones yna ond ni fedraf ei dilyn. trist fod ddim llawer o waith wedi ei wneud yng Nghymru.Mae,n rhaiid ii fi fynd i Dolgellau,Carnarfon a Llandrindod Wells rhyw dro. Ynys Talhaearn oedd ardal Tremadog gynt.Sydod edrych ar y hanes gynt mai Hogyn o Harlech ydwyf fi er i mi gael fyy nggeni in Tremadog.
Pob hwyl
-
I aplogise for not replying in Welsh, perhaps if it offends somebody could translate ?. John Harlech
Jones was my Great Grandfather and I have researched his family history back to 1816 and that of his wife Jane Anne Griffith even further. What I am less clear about are decendants since the family moved to Blaenau Ffestiniog in about 1925. Would be happy to trade some information.
-
Diolch Soldiermawr
Mi wnaf ymateb yn "Wales (Counties - Caernarvonshire)" gan mai yn y Gymraeg yn unig y mae yr adran hon.
Diolch
-
Yr Oedd yna Griffith Jones g 1870 yn byw yn Llechwedd Harlech yn 1871. Yr oeddym yn newid enwau hefyd yn Yr ardal yn yr oesoedd yma. Un o rhain i mi oedd William Evans mab Evan Williams. pan gyrrhaeddodd 1871 William Williams yr oedd.Yr hogiau y teulu gyda snam Williams ac y merchaid Evans.
Tad Griffith oedd Edward g 1843.
Yr oeddyn yn gallu symud o gwmpas yn yr oesoedd hynu. Fe welais hynnu wrth edrych ar chwaer fy cyn cyn taid ar ol prodi Ellis Griffith a ganwyd yn Tudweiliog ond yn byw yn Harlech.
Gwerth edrych ar Griffith Jones
-
Pnawn da Elbac
Mae'n ddrwg gennyf gymryd cymaint o amser i'ch ateb Elbac - oedi diangen ar fy rhan i.
Tybiaf i'r J G yma fod yn fwy debygol o fod yn John. Yr wyf, erbyn hyn wedi ffeindio un (wedi ei eni yn Nhremadoc) sydd yn debygol o fod yr un iawn. Ganwyd brodyr a chwiorydd i hwn yn Llanfair a Llanbedr, felly 'roedd ei fam a'i dad yn byw yn Harlech ar un tro.
Diolch yn fawr iawn am yr awgrymiad.