RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Wil Hen on Monday 04 April 11 11:22 BST (UK)
-
Chwilio am fedd Ephraim a Gwen Williams yn ardal Cyffylliog Rhuthun. Bu Ephraim farw tua 1880 a Gwen fu farw tua 1894 yn Cerrigoerion, Plwyf Cyffylliog.
Diolch Wil Hen
-
Yn ol GPM Gogledd Cymru bu farw eich cwpwl chi yn 1880 a 1894, nid "tua". Yn anffodus, wneith tistysgrif marwolaeth ddim dweud ym mhle claddwyd y ddau.
Yn ol Genuki: http://www.clwydfhs.org.uk/churches/Cyffylliog/ mae'n ymddangos bod 'na fynwent gerbron eglwys Cyffylliog, felly, os nad ydych wedi edrych yn barod, yn y fan honno y buaswn yn cychwyn chwilio.
Dyma "link" i'r eglwys: http://www.dyffrynclwyd.org.uk/cyffylliog.htm Mae'n debygol bod plan y fynwent yn cael ei gadw yno.
Tecwyn.
-
Diolch yn fawr Tecwyn am ymateb i'm cais. Mae yr ardal yna yn ddieithr i mi ond fe geisiaf fynd yno gan fod gennyf le penodol nawr i gychwyn chwilio am y bedd.
Hwyl
Wil Hen