RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: GPJ on Monday 27 December 10 21:21 GMT (UK)
-
Shwd mae.
Roedd pawb yn fy mhentref yn galw fy hen-dad-cu Twm bach "Jag" Davies. Mae'r teulu yn dweud bod ystyr y gair "JAG" yn rhywun sydd wedi dod o'r cefn gwlad!
Ond, mae'r fy ymchwil i yn dangos bod Twm (Tom) wedi cael ei eni yn yr ardal!
Os unrhyw un yn gwybod o le mae'r gair "Jag" yn dod?
diolch
-
Dim syniad, gwaetha'r modd :(
Pinot
-
Mae'n siŵr eich bod chi yn gyfarwydd â'r enw teuluol Jagger, yr hyn yw Jagger yw dyn sydd yn tynnu Jag sef enw Saesneg canol am gert amaethyddol. Mae yna nifer o eiriau o'r hen Saesneg sydd wedi goroesi yn y Gymraeg er eu bod wedi eu hanghofio mewn Saesneg modern - tybed os yw Jag yn enghraifft o un ohonynt?
-
Diolch Dolgellau, ateb diddorol.
Mae Cwmtawe yn "enwog" am eiriau "gwahanol" am bethau pob dydd.
Rwy'n siŵr fod hwn yn ganlyniad bobl o wahanol lefydd yn dod i weithio yn y pyllau glo de Cymru.