RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Friday 03 December 10 21:41 GMT (UK)
-
A oes rhywun yn gwybod beth oedd yr union berthynas rhwng y ddau uchod, ogdd ?
Bu rhaglen ar S4C am Ellis Williams yn Patagonia rhyw 4 mlynedd yn ol, tra roedd yr ail yn awdur.
Yr wyf wedi darllen llyfr y diweddar J Ellis Williams 'Cymylau amser' , ond nid wyf yn siwr os yw'n defnyddio enwau iawn ei deulu. Mae cyfeiriad at Ellis Williams fel ei ewythr, ond a yw'r union gysylltiad ar gael yn rhywle ,ogdd . Credaf mai o ardal Penisarwaen/Brynrefail yr oedd y ddau yn dod.
-
huwcyn,
Od byddwch chi'n googlo 'ellis williams patagonia' a chlicio ar 'ellis williams story S4C Language Centre' ddylwch chi ddod o hyd census 1841-1901 teulu Williams "Gors Llanddeiniolen". O'dd brawd Joseph a chwaer Harriett 'da Ellis. O'dd Joseph ar y fferm o hyd ar y Census 1911.
'Fyd, os byddwch chi'n googlo John Ellis Williams byddwch chi'n dod o hyd erthygl amdano. Cafodd e ei eni 20 8 1924. Felly, pwy o'dd ei dad? Joseph, brawd Ellis neu briododd Harriett Williams â rhywun enw Williams 'fyd?
Cwpl o bosibilrwyddau 'da FreeBMD
John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 662 cyfenw mam Jones
John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 654, cyfenw mam Davies
John Williams, Dec 1924, Carnarvon, 11b 591, cyfenw mam Davies
John E Williams, Dec 1924, Carnarvon, 11b 614, cyfenw mam Edwards
Mae 'na rhywbeth od yn yr erthygl Wikipedia. Mae'n sôn am "....his uncle ellis williams....". Cliciwch ar y link ellis williams - od iawn!!
cofion cynnes
-
Rhyfedd o fyd!.
Gwneuthum ddarganfod ddoe fod Joseph, brawd Ellis Williams, Y Gors wedi priodi ac Annie Jones, chwaer ieuengaf fy nhaid.
Priodasant yn 1912 mi gredaf ac ymfudo i'r Unol Daleithiau ar y "Baltic" gan lanio yn Efrog Newydd ar y 5ed o Orffennaf 1913. Roedd ei chwaer, Jane yn byw yno yn barod yn 147 West Street, Utica a hithau yn briod a Evan Williams.
Wmffra
-
Mi oeddwn i o dan yr argraff mai Joseph Williams ( 1884 - 1951) ac Anne (Rowland ) Jones (1881-1976) oedd rhieni John Ellis Williams. A wnaethont ddychwelyd i Gymru cyn iddo gael ei eni, neu a ydwyf wedi drysu dau set o Joseffs ac Annes !
-
Allwn i ddim deall y cyfeiriad at "Evan Williams". Pwy yw e?
'Sai Joseph wedi priodi â Anne Jones, fyddai hon cofrestriad yr 'enedigaeth ?
John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 662, enw y fam Jones
cofion cynnes
-
Diolch am bob cymorth. Popeth wedi ei ddatrys !
-
Helo na - fi ydy mab John Ellis Williams ac hen nai Ellis Williams. Mae Wmffra yn gwybod pwy ydw i. Croeso i chi'ch dau arall gysylltu efo fi. Mae gan Wmffra fy manylion.
Pob hwyl,
Sion Rees Williams