RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: catgog on Tuesday 03 August 10 15:36 BST (UK)
-
Fyddai posib i rywyn ddweud wrthai sut yr oedd R Silyn Roberts o Llanllyfni, Dyffryn Nantlle yn yncl i Mathonwy Hughes? Oedd o'n frawd i Ellen neu Joseph rhieni Mathonwy?
-
Mam Mathonwy oedd Ellen Mary (nee) Roberts ganwyd tua 1874. Sef chwaer Silyn
-
Dylwn wedi cynnwys tystiolaeth i gefnogi fy honiad. Dyma fo:
Cyfrifiad 1881
RG11 /5563 Ffolio 6 Tudalen 6
Brynllidiart Llanllyfni,
Robert Roberts Head Married 61 Clynog, Farmer 50 Acres
Ellen Roberts Wife Married 47 Gwalchmai, Farmer's Wife
Robert Roberts Son 10 Llanllyfni, Scholar (Silyn)
Ellen Mary Roberts Daur 7 Llanllyfni, Scholar (Mam Mathonwy)
Cyfrifiad 1901
RG13/ 5268; Ffolio: 162; Tudalen: 11.Cofnod 68
Brynllidiart, Llanllyfni:
Ellin Roberts Wife Widow 67 Farm Wife Aberffraw Both
Joseph H Hughes Son in Law 29 Slate Quarryman Llanllyfni Welsh
Ellin M Hughes Wife 27 Dressmaker Llanllyfni Both
Mathonwy Hughes 1 month
-
Gwych!
Diolch yn fawr iawn!
-
:)
A ydych wedi bod yn gweld Bryn Llidiart fel ag y mae heddiw?
Dilynwch y linc isod er mwyn darllen ychydig am y lle a'i bobl:
http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-enwogion.htm
Mae gennyf luniau o Frynllidiart yn rhywle, ond wedi methu eu ffeindio hyd yn hyn.
Cyfarchion
-
:)
"BrynLlidiart" gan Mathonwy Hughes (1901-1999)
Dim ond ei furddun unig
A weli fry ar dal frig
Yn ei heddwch mynyddig.
Diolau a diaelwyd
Yw y lle diarffordd llwyd
I dywydd a adawyd.
Tir pell y diadelloedd
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i’m taid ydoedd.
Hwnnw â’i raw gynt fu’n trin
O’r cwm ei ran o’r comin,
Palu, palu ymhob hin.
O’r mynydd oer mynnodd hwn
Droi gweundir yn dir gwndwn,
A’r fawnog yn rhywiog rwn.
Creodd fuddiol fywoliaeth
O fawndir llwm y cwm caeth,
Ond di-fudd etifeddiaeth.
Canys o’r llafur cynnar
Nid ery owns o dir âr,
Hulia brwyn ôl y braenar.
A heddiw lle bu tyddyn,
Caeau gwair aeth yn y grawc gwyn,
Gweirglodd a fagodd figwyn.
Y dioffer a diffaith
Hendir llwm, wedi’r holl waith,
a hawlia’r mynydd eilwaith.
... Gwych, heb os!