RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Hughes17 on Saturday 19 December 09 19:13 GMT (UK)
-
~~~~~~~~
Oes na rhywun allan yna yn gwybod rhywbeth am y cymeriad uchod - neu yn well byth, pwy oedd ei wraig?
Dwi wedi dod ar draws yr enw drwy edrych i fyny 'obituary' Margaret Price (gynt o Ynysllecheuryn, Llanddeiniolen) a fu farw yn Cwm Y Glo yn 1947.
-
Dwi'n credu erbyn hyn mae Robert Henry Williams oedd y parchedig. Ganwyd yn Y Felinheli yn 1900. Oes rhywyn yn gwybod beth oedd ei hanes ar ol 1947?
-
Gwraig Robert Henry Williams oedd Margretta Jones o'r Felinheli (yn cael ei galw'n Gretta fel arfer). Merch y Capten Richard Ellis Jones o Gartref, Felinheli oedd hi. Roedd ei chwaer, Enid May Jones wedi priodi y newyddiadurwr enwog, Owain Llewelyn Owain.