RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: chwaral on Wednesday 12 August 09 19:53 BST (UK)

Title: Japheth
Post by: chwaral on Wednesday 12 August 09 19:53 BST (UK)
Yn ceisio dilyn teulu Japheth ymhellach 'nol na 1731!!! Oes yna rhywun gyda'r gwybodaeth hyn tybed!?  :)
Title: Re: Japheth
Post by: Gwil on Wednesday 12 August 09 21:11 BST (UK)
Be am hyn

http://en.wikipedia.org/wiki/Japheth


 :)

gwil
Title: Re: Japheth
Post by: chwaral on Wednesday 12 August 09 22:30 BST (UK)
Dim cweit yr un llinach.  ;)

Japheth Pritchard oedd y cyntaf i roi ei enw cyntaf fel cyfenw i'w blant - yn ol y drefn Gymreig wrth gwrs, ym 1731.
Title: Re: Japheth
Post by: Gwil on Wednesday 12 August 09 22:41 BST (UK)
Dim ond dipyn o dynu coes  :)

Mae'r  llyfrau plwyfol yn annodd i ddilyn yn dechrau's 1700s heb son am fynd i feibl Hebraeg i chwilio an linnell.
Pa ran o'r wald ydach chi'n son.Be am llyfr T Ceiri Griffith. Sgynnoch chi gyfeiriad neu ddau?

Gwil
Title: Re: Japheth
Post by: chwaral on Friday 14 August 09 12:15 BST (UK)
Mae cyn-daid teulu'r Japhethiaid, sydd yn frith yn Sir Gaernarfon, yn dod o Langybi, Eifonydd. Ei enw oedd Japheth Prichard a cofodd ei eni'n 1731 (mae ei garreg fedd yno). Dwi wedi bod yn chwilio am ei dad gan gymryd mai Richard rwbath oedd ei enw fo. Be dwi angen ydy cofrestrau y plwyf ond am wn i maent i gyd yn Aberytwyth?
Title: Re: Japheth
Post by: Gwil on Friday 14 August 09 17:19 BST (UK)
Yn yr Archifdy yn Gaernarfon yn ol hwn.

http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/CAE_PR.html


Nid oes index enwau yn llyfr T Ceiri (heblaw ewyllysuau) ond digon o gyfeiriadau. mae copi o'r llyfr yn yr Archifdy os ydach yn mynd yno i weld y llyfrau plwyf.


Gwil