RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: wheldon on Thursday 09 July 09 14:33 BST (UK)
-
Chwilio am wybodaeth am Henry William g.Llandegai 1882 a'i deulu a oedd yn byw yn 1911 yn Ffrwdgaled, Tregarth, ger Bangor. Ei wraig oedd Catherine Ann g.Llandegai 1884, eu plant oll yn enedigol o Landegai Ifor Emrys g 1904, Robert Raynold g 1906m Elernion Blossie g. 1908 a John Wheldon g.1909
-
Helo ,
Wedi bod yn chwilota am Henry William ar census 1891 ac ar y BMD's am ddim , ond hyd yma wedi methu cael hyd iddo. Mi wnai drio eto yfory.
-
Diolch. Heb roi s ar ddiwedd William i wneud Williams!
-
Mae na Henry Williams 9 oed yn 1891 yn byw yn 'Tai Hirdir' Coed y Parc; District 11, Llandegai.
mab i John ac Ann Williams
plant
Ann 20
John 20
William 16
Margaret 13
Mary 11
Henry 9
i gyd yn enedigol o Llandegai
-
Diolch. Heb roi s ar ddiwedd William i wneud Williams!
Ah ! 'Roeddwn yn mynd i ofyn os oedd yr enw yn gyflawn , neu os oedd ganddo enw cannol. :) Wedi cael yr un canlyniad a Hughes17, ond wedi ychwanegu oed y rhieni :
John Williams 44
Ann Williams 45
Hefyd ychydig o wahaniaeth yn enw ac oedran y ddau blentyn hynaf:
John J Williams 22
Robert Williams 20
'Roedd y tad a'r ddau fab hynaf yn gweithio yn chwarelwyr.
Gobeithio fod hyn y help i gychwyn !
-
Ar census 1901, 'roedd Henry Williams a rhai o'r teulu yn dal i fyw yn 'Tai Hirdir' , a dyma nhw:
John Williams 53
Ann Williams 56
John J Williams 33
Henry Williams 19
Mary E Griffiths [ eu mherch priod] 21
Hugh Griffiths [ mab yng nghyfraith ] 21
John D Williams [ nephew] 8
Robert Williams [ nephew] 6
-
Diolch yn fawr am y gwybodaeth diweddaraf. Rwyn meddwl bydd rhaid cael tystysgrif geni un o'r plant i gael cyfenw'r fam i fynd ymhellach, ac yna tystysgrif priodas.