RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: aled23 on Friday 17 October 08 12:41 BST (UK)

Title: hen deuluoedd LLanwnda a Mon
Post by: aled23 on Friday 17 October 08 12:41 BST (UK)
chwilio am unrhyw beth ynglyn a teulu John EVANS LLanwnda a priododd Catrin EDMUND...Does gen i'm llawer o wybodaeth ar y ddau heblaw bod ei mab Thomas JONES Trewyn Sir Fon wedi'w eni o gwmpas 1700 a bu farw yn 1742....fe briododd Thomas ag Ann merch Owen Cadwalader a Jane mrch Hugh...eto, ddim llawer o fanylion a'r teulu yma chwaith...LLanddyfnan mae'n bosib...A oes rhywun yn cydnabod yr hen deuluoedd yma?

cofion gorau
ALED...
Title: Re: hen deuluoedd LLanwnda a Mon
Post by: Dickie831 on Monday 09 January 12 10:12 GMT (UK)
Rydw i'n perthyn i un o'r teuluoedd Evans a ddaeth o Lanwnda (ger Caernarfon) ac mae yna ddigonedd o John's yn fy ngoeden.. ond mae'r dyddiadau yr ydych yn gofyn amdanynt rhyw can mlynedd a hanner yn bellach yn y gorfennol nac yr wyf wedi darganfod. Gyda enwau mor poblogiadd, mae'n bosibl taw teulu hollol wahanol ydw i. Ond mae cwpl o'r teulu o diwedd ganrif yr 1800au wedi eu claddu ym mynwent Llandwrog. Daeth rhai o'r teuly i'r dde i weithio yn y pyllau glo yn Nhreharris, a dyma lle ydw i yn nawr.