RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: trystan on Saturday 29 January 05 00:44 GMT (UK)
-
Helo pawb!
Cweistiwn reit dwp, ond dyma ni - Oes yna lyfrau weddol dda i ail-ddysgu Cymraeg i popbl fel fi sydd yn gallu siarad yr iaith weddwl dda, on heb lawer o gliw sud i'w swgennu?
Trystan
-
Mae Prifysgol Bangor wedi creu cwrs hunan ddysgu ar CD-Rom ar gyfer pobl sydd yn siarad Cymraeg yn weddol dda ond yn ansicr am ysgrifennu yn y Gymraeg
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/cymraeg/meddalwedd_cymarfer.php?printable=1
-
Diolch am y linc 'na
Y peth anodd ydi pa un i ddewis - Cymarfer y Gweithle neu Cymarfer Colegau.. ;)
-
Prin iawn yw’r gwahaniaeth rhwng y ddwy raglen, gan hynny prin yw’r dewis rhyngddynt, ond os oes rhaid gwneud dewis, oni bai eich bod yn efrydydd mewn coleg, dewiswch Cymarfer yn y Gweithle.
Trwy’r Saesneg cefais i fy magu a ‘r Saesneg oedd iaith yr aelwyd pan oeddwn i’n blentyn. Yr wyf wedi codi’r Gymraeg o’r gymdeithas heb dderbyn yr un wers yn y Gymraeg yn yr ysgol na’r coleg - yn wir mi fethais Gymraeg Lefel O yn yr ysgol!
Yr wyf yn ysgrifennu Cymraeg yn weddol hyderus (er yn ymwybodol o ambell i frych) yn unswydd o ddilyn y cwrs Cymarfer o Brifysgol Bangor.
Mae yna ambell i beth (ysgrifennu brawddegau cymhleth negyddol, er enghraifft!) rwy’n dal i gael anhawster efo ond ar y cyfan yr wyf yn teimlo fy mod yn gallu ysgrifennu llawer, lawer well Gymraeg wedi dilyn y cwrs Cymarfer nag oeddwn i gynt.
-
Mae eich Cymraeg yn ardderchog ac yn symbyliad i bawb sydd yn awyddus i ddysgu'r iaith.Rhaid dweud bod yr iaith lafar tipyn haws na'r iaith ysgrifenedig.Mae ceisio darllen llyfrau eithaf syml yn gymorth hefyd . Aleri
-
Llongyfarchiadau i'r ddau ohono' chi. ;D ;D
Er fy mod i wedi fu magu ar aelwyd Gymraeg, wedi cael fy addysg mewn ysgolion Cymraeg, ac mae Cymraeg ydi fy iaith gyntaf, ynghyd a'ng nghwraig a'n plant, tydi'n iaith ysgrifennedig i ddim llawer gwahanol i'n chi.
Mae'r ddau ohonoch yn haeddu pob edmygedd.
Daliwch ati.
Tecwyn. :)
-
Llongyfarchiadau i'r ddau ohono' chi. ;D ;D
Er fy mod i wedi fu magu ar aelwyd Gymraeg, wedi cael fy addysg mewn ysgolion Cymraeg, ac mae Cymraeg ydi fy iaith gyntaf, ynghyd a'ng nghwraig a'n plant, tydi'n iaith ysgrifennedig i ddim llawer gwahanol i'n chi.
Mae'r ddau ohonoch yn haeddu pob edmygedd.
Daliwch ati.
Tecwyn. :)
Yr ydwyf fi'n dysgu Cymraeg hefyd. Ydyw'r hon yn Gymraeg da, os gwelwch yn dda? Yn gofyn yn unig.
-
Yr ydwyf fi'n dysgu Cymraeg hefyd. Ydyw'r hon yn Gymraeg da, os gwelwch yn dda? Yn gofyn yn unig.
Mae gan ormod o ddefnyddwyr y Gymraeg obsesiwn efo Cymraeg "da". Dwi ddim yn darllen negeseuon ar y Rootschat lle mae pobl yn poeni os yw eu Saesneg yn ddigon dda er bod yna ddigon o enghreifftiau o Saesneg gwael ar y naw i'w gweld yma.
Nid mater i fi na neb arall yw barnu os yw eich Cymraeg yn dda, yr hyn sy'n bwysig yw fy mod wedi deall eich neges. Gan fy mod wedi ei ddeall mae'n gwneud ei gwaith, mae'n cyflawni ei ddyletswydd mae'n ddigon da.
Does dim ots gennyf os ydy rhywun yn gofyn imi wyt ti'n leicio strawberries a cream? neu a ydwyt yn hoff o fefus a hufen?
Cymraeg, a Chymraeg digon da, yw'r ddau!
-
Rwy'n cydweld yn hollol! Mae mor hawdd i bobl dorri eu calon a rhoi ffidil yn y to.Cael cyfle i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg sy'n bwysig heb boeni gormod am ysgrifennu yn yr iaith -sydd tipyn yn anoddach.