RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: wheldon on Friday 28 March 08 14:15 GMT (UK)
-
Chwilio am unrhyw un hefo'r enw Wheldon yn y teulu.
-
Helo,
Mae cysylltiad gennyf a Pierce Wheldon Williams a anwyd yn Bodfeurig, LLandegai
M
-
Helo M. Diolch am gysylltu! Mae gennyf un Pierce Wheldon Jones heb ei ffitio i mewn ar y goeden. Ganed tua 1865 ac enw ei fam oedd Ann. Yng nghyfrif 1871 mae yn byw yn Braichmelyn, Llanllechid, hefo Edward ac Ann Jones. Yng nghyfrif 1881 mae Edward yn lysdad 'stepfather'. Yn fy nodiadau, mae yn briodas bosib rhwng Edward Jones ac Ann Jones yn chwarter Mawrth 1866 ym Mangor.
Priododd Pierce a Margaret Ann Jones, 1af Mehefin 1892yng nhgapel Bethesda. Ar y pryd roedd Pierce yn byw yn Well Street, Gerlan, Bethesda, ac enw ei dad ar y dystysgrif yw Edward Jones.
Ar Orffennaf 17, 1893 ganed mab iddynt Penry Wheldon yn Ogwen view, Bethesda ond bu farw.
Bu farw Pierce 11 Mawrth 1918; roedd yn byw yn Cilfoden Isaf, Bethesda.
-
Pierce Wheldon Williams - fe wnes gamgymeriad hefo'r cyfenw!. Mae cymaint ohonynt! Mae gennyf un a aned yn Ceunant, Llandegai yn 1891 - mab i John ac Ellen (Pritchard) Williams.
Hwyl
-
Pierce Jones, mab i William Owen Williams a Mary Williams, ganed 1888. William yn enedigol o Landegai a Mary o Lanrug.
-
Helo,
Ia, da chi'n iawn. Ar cyfrifiad 1901 mae'r Pierce Wheldon Williams yma yn fab i William Owen Williams a aned yn fferm Bodfeurig, LLandegai, a Mary Williams. Mae Pierce yma yn 1901 yn 13eg.
Mae'r William Owen Williams yn frawd i fy hen/hen/hen nain sef Elizabeth Williams, neu Lizzie Bodo- fel ei gelwir adag honno, hyn oherwydd yr enw Bodfeurig.
Mandy.
-
Helo Mandy, Ydach chi'n gwybod o pa ochr mae'r enw Wheldon yn dwad? Rwyf wedi dilyn y teulu yn ol i 1841, hefo William wedi ei eni yn Llandegai a Mary yn Llanrug. Diolch Llinos
-
Na, yn anffodus sydd gen i ddim syniad o ble mae'r enw Wheldon wedi dwad, afallai o ochor Mary o Lanrug?
Mandy
-
Diolch am yr ateb. Newydd fod yn gwylio rhaglen am yr Arwisgo yng Nghaernarfon yn 1969! Fe symudom ni i fewn i fferm newydd ddim ymhell o G'fon y noson cynt! Cofio gweld heddlu o gwmpas y fferm pan oedd y loris gwartheg yn mynd i lawr y dreif.
Hwyl
-
Mae yna feddi teulu Wheldon yn Eglwys St. Peris, Nant Peris.
-
Mae yn Wheldoniaid yn ardal Porthmadog / Cricieth.
-
Diolch Liliwenfach. Mae bedd John Wheldon 1745-1786 ar ydde i'r llwybr i'r eglwys ac yn dal i fod yn ddarllenadwy.
-
Diolch Chwaral. Nid oes gennyf wybodaeth am y Wheldoniaid o Griccieth. Ydych chi'n nabod rhywun y medraf gysylltu? Diolch
-
Nacydw, sori. Gwyn Wheldon ydy enw un ohonynt.
-
Diolch Chwaral. Mi af ati i wneud ymholiadau.
-
Nacydw, sori. Gwyn Wheldon ydy enw un ohonynt.
Gwynne Wheldon Evans ydi ei enw cyflawn yng nghyfeiriadur BT.
Pinot :)
-
mae yna deulu Wheldon Williams o gwmpas Criccieth a Porthmadog hefyd.
-
Diolch yn fawr iawn pawb!
-
Mae gennyf i Pierce Wheldon Williams yn fy nheulu a aned yn 1891 a fe briododd a Jane Jones o Lanllechid. Bu farw Pierce yn 1948 a credaf y bu farw Jane tua 1960 yn Methesda. Mab i John ac Elinor oedd Pierce a roedd gan Pierce a Jane 3 o blant. Eifion oedd enw yr ieuengaf. Fe briodd a Ann ac roedd 3 mab ganddynt. Eisio cysylltu a teulu Eifion. A all rhywun fy helpu?
-
Ewch ar Caernarvon Traders, ma na Rev Wheldon arno.
-
Diolch yn fawr. Mae pob cyfeiriad yn ddefnyddiol
-
Fy enw yw Geraint Wheldon Williams,Llan Ffestiniog a rwyf innau yn ceisio darganfod ble ddaeth yr enw wheldon yn wreiddiol.Rwyf wedi dod o hyd i son am John Wheldon 1745-1786 a oedd wedi priodi a Lowri Pyrs.Hefyd mab iddynt John Wheldon 1783-1869 Llwyn celyn Llanberis,ei wraig oedd Grace Jones.Hefyd roeddent wedi ymgartrefu yn penbont yr afon goch Llanberis,bu farw Grace Tachwedd 1873 yn 78 mlwydd oed.William Wheldon Hughes ai briod Anne Hughes Pentre castell Llanberis,a merch Ellen Hughes.Bu farw Anne Rhagfyr 2ail 1900 yn 63 mlwydd a William Ionawr 22 1906 yn 66 mlwydd
-
Yn ol llyfr Ceiri Grffith , tad John Wheldon (1745) oedd Wheldon Jones , a symudodd o Ty Hen (Aberdaron) i Felin Gerrig, Llanllyfni .(Tudalen 166), ac enw'r fam oedd Jane . Mae rhan arall o'r teulu ar dudalen 77.